IBERS Distance Learning Logo

Prosiectau Ymchwil yn y Gweithle

A fydd yn rhaid i mi wneud prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar waith?

Er mwyn ennill cymhwyster lefel Meistr neu Ddoethurol, gan gynnwys MSc, MRes, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol, bydd angen i chi gwblhau prosiect ymchwil. Mae'r cymwysterau hyn yn cydnabod eich lefel sgiliau academaidd, ac mae ymchwil yn elfen sylfaenol o hynny. Os eich nod yw cwblhau un o'r rhaglenni hyn, yna mae'n bryd dechrau meddwl am gwestiwn ymchwil bydd yn ffurfio sail eich prosiect!

Sut byddaf yn datblygu fy syniadau a sgiliau ymchwil?

Mae'r modiwl  Dulliau Ymchwil yn orfodol i unrhyw fyfyriwr sy'n dymuno cwblhau MSc, MRes neu Ddoethuriaeth Broffesiynol. Mae'r modiwl yn rhedeg dair gwaith y flwyddyn ac mae'n hanfodol i unrhyw un sy'n ymgymryd â phrosiect ymchwil yn y gwaith. Gellir ei gymryd unrhyw bryd cyn i chi ddechrau eich ymchwil ond fel arfer caiff ei gymryd fel y modiwl olaf cyn dechrau ar y prosiect.  Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr syniad eisoes o'r ymchwil yr hoffent ei wneud cyn dechrau'r modiwl. Ond os nad oes gennych gynnig mewn golwg yna gallwch edrych ar rhai o'r syniadau y mae ymchwilwyr IBERS wedi'u cyflwyno.

Os ydych eisoes yn gyflogedig mewn sector perthnasol, byddwch am gyflawni ymchwil sy'n cyd-fynd  â'ch gwaith ac mae'n hanfodol bod eich cyflogwr yn gefnogol o'r ymchwil a'r ymroddiad y bydd angen i gwblhau'r ymchwil. Tra bydd y ffocws academaidd ar gwblhau darn uwch o ymchwil, bydd ymgorffori'r ymchwil hyn yn eich gweithle yn darparu cyfleoedd posibl ar gyfer arloesi yn eich gweithle. Byddem yn argymell eich bod yn siarad â'ch cyflogwr a'ch tiwtor cyn gynted a phosib.

Faint o waith yw cwblhau traethawd hir?

Mae yna ddau lwybyr posib ar gyfer cwblhau traethawd hir o fewn y rhaglen yma:

Traethawd Hir 60 Credyd – mae hyn yn ffurfio elfen ymchwil y Gradd Meistr (MSc). Fel arfer bydd hyd y traethawd tua 12,000 – 15,000 o eiriau gydag uchafswm o 20,000 o eiriau. Disgwilyr i fyfyrwyr rhan-amser cwblhau eu traethawd hir mewn blwyddyn.

Traethawd Hir 120 Credyd - mae hyn yn ffurfio elfen ymchwil yr MRes a'r bwriad yw darparu ymchwil ystyrlon ar gyfer y diwydiant, ac ar gyfer ymgeiswyr Doethuriaeth Broffesiynol bydd y traethawd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer y traethawd hirach ymchwil Rhan II. Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau traethawd hir MRes. Mae asesiad y prosiect ymchwil yma yn cynnwys dau ran (A a B). Rhan A yw'r 'traethawd ymchwil' (dim mwy na 8,500 o eiriau) a dylid ei gyflwyno ar gyfer asesiad ar ffurf papur ymchwil  o gyfnodolyn gwyddonol priodol fel y cytunwyd gyda'ch goruchwyliwr academaidd (cyfarwyddiadau ar gael). Mae'r rhan yma gwerth 90% o'r marciau cyffredinol. Mae Rhan B yn gyflwyniad o'r prosiect wedi'i recordio, sy'n para dim mwy na 12 munud. Mae'r rhan yma'n gwneud fyny'r 10% sy'n weddill o'r marciau cyffredinol.

Pa fath o weithgareddau y byddaf yn cwblhau yn y prosiect ymchwil?

Mae pob prosiect ymchwil yn cynnwys adolygiad manwl o'r llenyddiaeth academaidd yn eich disgyblaeth er mwyn eich galluogi i nodi cwestiwn ymchwil sy'n ymateb i 'fwlch mewn gwybodaeth' - bydd eich prosiect ynd mynd i'r afael a'r cwestiwn. Yna byddwch yn cynllunio strategaeth briodol i ddod o hyd i ateb i'r cwestiwn hwnnw a nodi dulliau priodol o gasglu data a'i ddadansoddi. Mae'r ddau draethawd hir yn adeiladu ar y cynnig ymchwil y byddwch yn ei ddatblygu yn ystod y modiwl Dulliau Ymchwil, a byddwch yn derbyn cymorth academaidd strwythuredig gan oruchwyliwr arbenigol eich pwnc.  Y prif gerrig milltir o fewn y ddau fath o draethawd hir yw:

Datblygu eich cynnig ymchwil ymhellach

Datblygu eich adolygiad llenyddiaeth ymhellach

Cwblhau eich ymchwil yn fedrus ac yn effeithlon

Gwerthuso eich canlyniadau gan ddefnyddio dadansoddiadau ystadegol priodol

Cyflwyno a thrafod eich canfyddiadau

Cynhyrchu adroddiad dysgedig o'r ymchwiliad ar ffurf traethawd hir yn unol â chanllawiau'r Brifysgol

Seke Kazuru

For his MRes research project, Seke is using high tech methods to dissect the genetics and morphological characteristics of some of Malawi’s local maize landraces. His aim is to reduce the growth of aflatoxin-producing fungi in the crop. Aflatoxins are particularly harmful to children causing stunted growth, delayed development, liver damage, and liver cancer. Seke says: This research is important as it will inform maize breeders and researchers what to consider in breeding maize varieties to enhance the future health of the population.

Adnoddau i'w Lawrlwytho

Llyfryn Ffurflen Cynnig Ymchwil