FAQs
Ydi'r rhaglen yn addas i mi?
Anelir y cyrsiau hyn at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella cynaliadwyedd y sector bwyd. Mae ein myfyrwyr yn dod o broseswyr bwyd mawr a bach, ffermwyr a thyfwyr blaengar, entrepreneuriaid, biotechnoleg, milfeddygon fferm, gwerthu porthiant, ymgynghorwyr, gweithwyr estyn, ymchwilwyr, darlithwyr, llunwyr polisi, bragwyr ac awdurdodau dŵr. Os ydych chi eisoes yn gweithio yn y sector bwyd, mae ein cyrsiau'n ffordd ddelfrydol o sicrhau bod eich gwybodaeth yn gyfredol ac (herfyd yn gyfle) i ennill cymwysterau ol-raddedig. Neu os oes gennych ddiddordeb yn y sector bwyd-amaeth mae ein cyrsiau'n darparu llwybr i chi ennill y cymwysterau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa newydd. Os oes gennych radd mewn gwyddoniaeth neu o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol, yna gallwch gofrestru ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig. Os nad oes gennych brofiad neu gymwysterau perthnasol, mae croeso i chi gofrestru ar gyfer modiwlau unigol; Os byddwch yn cwblhau un yn llwyddiannus gallwch wneud cais i ymuno ag un o'n rhaglenni MSc, gan drosglwyddo'r credydau rydych wedi'u cwblhau.
Sut mae'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu?
Rydym wedi cynllunio ein hyfforddiant i fod mor hygyrch â phosibl i fyfyrwyr sy'n gweithio a/neu'n methu dod i'r DU. Oni nodir yn wahanol, mae pob pwnc yn cynnwys modiwl dysgu o bell 13 wythnos gwerth 20 credyd. Mae'r MSc Arloesi Bwyd-Amaeth yn cynnal rhai modiwlau dewisol yn seiliedig ar weithdai. Gellir cymryd unrhyw un o'r modiwlau a restrir ar y wefan hon yn unigol ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus neu ddiddordeb eich hun, neu gallwch eu cynnwys mewn cymhwyster ôl-raddedig. Os ydych yn ystyried astudio ar gyfer MSc, MRes neu gymhwyster Doethurol bydd disgwyl i chi ddilyn y modiwl 'Dulliau Ymchwil'. Cyflawnir elfennau ymchwil ein cymwysterau Meistr a Doethurol yn eich gweithle gyda goruchwyliaeth academaidd reolaidd. Os nad ydych yn gyflogedig mewn sector perthnasol, byddai disgwyl i chi naill ai gynnal astudiaeth ddesg neu drafod gyda sefydliad neu gyflogwr lleol i'ch galluogi i gynnal eich ymchwil yno (gallai hyn gynnwys costau ychwanegol, nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhaglen)
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Rhan-amser hyblyg: O'r dyddiad cychwynnol, mae gennych uchafswm o 5 mlynedd i gwblhau cymaint neu gyn lleied o fodiwlau ag y dymunwch. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn Doethuriaeth ran-amser, caniateir dwy flynedd ychwanegol i chi, gan roi cyfanswm o saith mlynedd i chi. Ni ellir cwblhau MSc neu MRes mewn llai na dwy flynedd.
3 blynedd rhan-amser: Mae'r llwybr hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr MSc neu MRes sy'n derbyn Benthyciad Astudio Ôl-raddedig yn y DU, sydd angen ei gwblhau o fewn 3 blynedd. Bydd disgwyl i chi astudio ar gyfradd o dri modiwl y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr ein bod yn ymwybodol os mai dyma'r llwybr rydych yn ei gymryd.
Faint o waith fydd angen i fi wneud?
Mae ein modiwlau dysgu o bell wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg fel y gallwch ffitio astudio o amgylch eich gwaith ac ymrwymiadau eraill. Disgwylir i fyfyriwr gwrs Meistr nodweddiadol astudio am 200 awr, i gyd, wrth gymryd modiwl 20 credyd. Mae ein myfyrwyr yn dweud eu bod yn treulio 10 i 15 awr yr wythnos fesul modiwl yn astudio. Yn amlwg, y mwya o amser ag ymdrech y gallwch ei roi mewn y mwya' byddwch yn elwa ac mi fydd eich marciau yn dueddol i fod yn uwch. Os ydych yn gweithio llawn amser rydym yn cynghori yn erbyn astudio mwy nag un modiwl ar y tro, o leia nes byddwch wedi cwblhau un modiwl ac yn ymwybodol o'r lefe gwaith.
Pa un yw'r cynllun gorau i mi?
Mae Dysgu o Bell IBERS yn cynnal tri cynllun Meistr hyfforddedig (MSc), Tystysgrif Ôl-raddedig ar wahân (PGCert), dau gynllun Meistr Ymchwil (MRes) a dau Ddoethuriaeth Broffesiynol. Bydd pa gynllun y byddwch yn ei ddewis yn dibynnu ar (1) p'un a ydych am gael eich dysgu'n bennaf, neu wneud gwaith ymchwil, a (2) pa gyfuniad o fodiwlau yr hoffech eu cymryd. Edrychwch ar adran 'Adeiladu Cymwusterau' ar y wefan hon.
Pryd alla'i ddechrau?
Cyflwynir modiwlau mewn rhaglen parhaol, gyda dyddiadau cychwyn ym mis Ionawr, Mai a Medi. Gallwch ddechrau gyda pha un bynnag o'ch modiwlau dewisol sydd fwyaf cyfleus. Nid ydym bellach yn cynnal modiwlau gyda llai na 5 myfyriwr, felly rhowch wybod i ni ymlaen llaw beth fydd eich dewisiadau fel y gallwn gynllunio ymlaen llaw. Caiff modiwlau poblogaidd eu hailadrodd bob blwyddyn, gyda modiwlau mwy arbenigol arbenigol yn rhedeg bob yn ail flwyddyn. Os ydych chi'n gweithio tuag at gymhwyster, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen ac yn dewis y modiwlau priodol.
