Maeth Da Byw
Apply to Be a StudentDyddiad rhyddhau: Mis Mai
Achrediad Proffesiynol: BASIS = 30 points
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Prifysgol Aberystwyth
Dysgu sut i wella effeithlonrwydd cynhyrchu ac ansawdd cig a llaeth a lleihau effeithiau ar yr un pryd
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar egwyddorion maeth da byw mewn cyd-destun eang. Bydd yn cwmpasu gwerthuso porthiant yn ogystal ag egwyddorion metabolaeth a gofynion maethol yr anifail. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar rôl mwynau a fitaminau mewn maeth da byw. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar yr ymchwil diweddaraf yn y meysydd hyn ac ar sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth hon wrth ffurfio dognau.
Cynnwys:
- Ffisioleg treulio gymharol
- Egwyddorion metabolaeth ynni
- Biocemeg a metabolaeth asidau amino
- Rolau a swyddogaethau mwynau a fitaminau
- Dadansoddi a gwerthuso diet
- Ffurfio a gwerthuso dognau
- Cynllunio arbrofion maeth anifeiliaid
- Treulio maetholion a metabolaeth
- Modiwleiddio poblogaethau microbaidd ymborthol a’u hecoleg
- Rhyngweithiadau planhigion-microbau
- Maeth ac addasu nodweddion cig a llaeth
- Lleihau effeithiau amgylcheddol drwy faeth
Cymwysterau y gellir defnyddio’r modiwl yma tuag at
| PGCert Nuffield Farming Scholarship | Option |
|---|---|
| Tystysgrif Ol-raddedig Gwyddor Da Byw | Core |
| MSc Sustainable Agriculture | Option |
| Gradd Meistr mewn Arloesi Bwyd Amaeth | Option |
| Gradd Meistr Ymchwil mewn Amaethyddiaeth | Option |
| MRes Agrifood Innovation | Option |
| Doethuriaeth Broffesiynol mewn Amaethyddiaeth | Option |
| Doethuriaeth Broffesiynol mewn BioArloesedd | Option |
Tiwtoriaid
| Enw Tiwtoriaid |
|---|
| Dr Kenton Hart |
Testimonials
“This module will be used to inform decisions regarding trials using Alltech solutions, as well as to answer technical and scientific queries from sales force and customers.”
“I have learned that there are huge steps forward being identified in the way we can develop ruminant products that are more efficient and environmentally beneficial.”
