Rahglennu Technoleg Amaeth
Apply to Be a StudentDyddiad rhyddhau: Sept 2025
Sefydliad Arweiniol: IBERS, Aberystwyth University
Mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy pwysig yn y sector bwyd-amaeth, maent yn hanfodol ar gyfer cyflawni nodau amgylcheddol ac economaidd hirdymor. Mae argaeledd data o nifer eang o ffynonellau – o ddrônau i fapiau tywydd, o gyflymwyr i synwyryddion lleithder pridd – yn cynnig potensial enfawr ar gyfer datrysiadau manwl.
Bydd y cwrs sylfaenol hwn ar raglennu ar gyfer technoleg amaeth yn archwilio egwyddorion sylfaenol o raglennu a rhesymu cyfrifiadurol sy’n hanfodol ar gyfer llywio tirwedd ddeinamig technoleg amaethyddol. P’un ai ydych yn ddechreuwr neu’n meddu ar rhywfaint o brofiad blaenorol, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch arfogi â gwybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddylunio a chreu eich rhaglen eich hun i integreiddio offer technoleg amaethyddol i mewn i systemau defnyddiol.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn darparu cyfres o unedau sy'n canolbwyntio ar:
- Cysyniadau rhaglennu sylfaenol
- Meddwl cyfrifadurol
- Cod ailddefnyddiadwy: datganiadau rheoli a swyddogaethau
- Ysgrifennu a rhedeg cod
- Deal negeseuon dehonglydd a rhai gwall
- Storio a rhyngweithio gyda data technoleg amaethyddol
Noder: Bydd y modiwl yma ddim ond yn rhedeg os bydd digon o fyfyrwyr
Apply to Be a StudentCymwysterau y gellir defnyddio’r modiwl yma tuag at
| PGCert Nuffield Farming Scholarship | Option |
|---|---|
| MSc Sustainable Agriculture | Option |
| Gradd Meistr mewn Arloesi Bwyd Amaeth | Option |
| Gradd Meistr Ymchwil mewn Amaethyddiaeth | Option |
| MRes Agrifood Innovation | Option |
| Doethuriaeth Broffesiynol mewn Amaethyddiaeth | Option |
| Doethuriaeth Broffesiynol mewn BioArloesedd | Option |
Tiwtoriaid
| Enw Tiwtoriaid |
|---|
| Dr Tomos Fearn |
