Diddymu Nwyon Ty Gwydr
Apply to Be a StudentDyddiad rhyddhau: tbc
Sefydliad Arweiniol: Dysgu o Bell IBERS
Modiwl newydd dan ddatblygiad ac heb ei gysylltu a chynllun MSc eto.
Mae'r modiwl hwn yn archwilio diddymu nwyon tŷ gwydr (NTG), gyda phwyslais ar strategaethau diddymu carbon deuocsid (CarbonDioxideRemoval, CDR) sy'n seiliedig ar dir, eu heffeithiolrwydd, a'u cyd-destunau polisi ac economaidd.
Rydym yn dechrau gyda chyflwyniad i diddymu NTG, gan amlinellu'r prif ysgogwyr polisi, cymhellion economaidd, a'r angen i diddymu carbon ynghyd â lleihau allyriadau. Byddwn yn archwilio cyfrifeg a gwerthuso carbon, gan ymchwilio sut mae carbon yn cael ei fesur, pwy sydd a’r hawl ei gyfri, a sut mae marchnadoedd a pholisïau yn siapio cynaliadwyedd gwahanol ddulliau diddymu. Yna mae'r modiwl yn ymdrin â phrif ddulliau CDR, gan ddechrau gyda Ynni Biomas gyda Dal a Storio Carbon (BECCS), sef dull diddymu bio-seiliedig blaenllaw. Rydym hefyd yn archwilio defnyddiau amgen o fiomas wrth i dechnoleg a marchnadoedd BECCS ddatblygu. Mae biochar, adfer corsydd, hindreuliad creigiau gyda basált, ac ailgoedwigo yn cael eu harchwilio o ran eu buddion, risgiau, a'u ehangadwyedd. Rydym hefyd yn ymdrin â datrysiadau peirianyddol nad ydynt yn seiliedig ar dir, megis Dal Carbon o'r awyr yn uniongyrchol, gan drafod ei botensial a'i gyfyngiadau. Yn olaf, rydym yn archwilio monitro, gwerthuso, a modelu strategaethau CDR. Mae hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd dulliau diddymu gwahanol, heriau mesur, ac offer posibl fel Asesiad Cylchred Bywyd (ACB). Rydym yn cysylltu hyn yn ôl â thrafodaethau cynharach ar brisio carbon a pholisi, gan ystyried sut mae ansicrwydd mewn mesur yn effeithio ar fuddsoddiad a gweithredu.
Erbyn diwedd y modiwl, bydd gan fyfyrwyr ddealltwriaeth fanwl o strategaethau diddymu NTG, eu hyfywedd, a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu a graddio’r datrysiadau hyn mewn cyd-destunau byd go iaw
Cynnwys:
- Cyflwyniad
- Pwy sy'n cael cyfri Carbon?
- Ynni Biomas gyda Dal a Storio Carbon (BECCS)
- Defnyddiau amgen o Fiomas wrth i farchnad a tehchnoleg BECCS ddatblygu
- Biochar: Manteision ac anfanteision
- Corsydd
- Basalt - Hindreuliad Creigiau
- Ailgoedwigo
- Technolegau sy'n dod i'r amlwg
- Monitro, Gwerthuso, Modelu
Cymwysterau y gellir defnyddio’r modiwl yma tuag at
| PGCert Nuffield Farming Scholarship | Option |
|---|---|
| Gradd Meistr mewn Arloesi Bwyd Amaeth | Option |
| MRes Agrifood Innovation | Option |
| Doethuriaeth Broffesiynol mewn BioArloesedd | Option |
Tiwtoriaid
| Enw Tiwtoriaid |
|---|
| Dr Kenton Hart |
Ymchwilwyr sy’n Cyfrannu
| Researchers Name | Organisation | Link |
|---|---|---|
| Prof Iain Donnison | IBERS |
