IBERS Distance Learning Logo

Newid Ymddygiad

Apply to Be a Student

Dyddiad rhyddhau: Mis Mai


Achrediad Proffesiynol: IEMA (fel rhan o MSc)


Sefydliad Arweiniol: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Dysgu sut i gynyddu’r nifer sy’n gweithredu ar wybodaeth, syniadau, cynhyrchion a pholisiau newydd

Rydym yn gwynebu sawl her wrth i ni drosglwyddo i garbon sero, gan gynnwys addasu ymddygiadau i ymgysylltu â gwybodaeth, syniadau, cynhyrchion a pholisïau newydd. Fodd bynnag, mae ymdrechion i newid ymddygiad pobl yn aml yn aflwyddiannus, hyd yn oed os ydynt yn cydnabod y byddai'r newidiadau yn fuddiol.  Mae hyn oherwydd nad yw pobl yn rhesymol! 

Mae mewnwelediadau ymddygiadol yn cael eu defnyddio'n gynyddol i geisio annog newid ymddygiad positif mewn perthynas â'r heriau amgylcheddol sy'n ein gwynebu. P’un a’i wrth ddatblygu polisïau i leihau'r defnydd o ynni, prosiectau cymunedol i leihau gwastraff bwyd, neu ymyriadau i annog ailgylchu, gellir gwella'r canlyniadau gan ddefnyddio dulliau priodol newid ymddygiad.

Mae mewnwelediadau ymddygiadol yn defnyddio ymchwil ffisiolegol a seicolegol, er mwyn datblygu dulliau i  drawsnewid ymddygiad pobl. Gall dealltwriaeth am yr wyddor gymdeithasol lled newydd hon fod yn fanteisiol i unrhyw un sydd angen cyfleu neges effeithiol i sector benodol neu'r cyhoedd ehangach.  Bydd y modiwl yma, a ddatblygwyd ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Mewnwelediadau Ymddygiadol Aberystwyth, yn eich helpu i ddeall damcaniaethau newid ymddygiad ac yn dangos sut y gellir eu cymhwyso i ystod o sefyllfaoedd, gyda phwyslais ar newid yn y sectorau bwyd-amaeth a'r sector amgylcheddol.

Mae'r modiwl hyn wedi'i anelu at wneuthurwyr polisi, gweithwyr proffesiynol ym maes cyfnewid gwybodaeth, personél marchnata, rheolwyr pobl, gweithwyr prosiect cymunedol, neu, yn wir, unrhyw un sydd am ddeall sut y gellid cymhwyso gwyddor ymddygiadol, sydd wedi llywio ystod eang o ddisgyblaethau, i annog newid ymddygiad bositif.

Apply to Be a Student

Cymwysterau y gellir defnyddio’r modiwl yma tuag at

PGCert Nuffield Farming Scholarship Option
Gradd Meistr mewn Arloesi Bwyd Amaeth Core/Option
MRes Agrifood Innovation Option
Doethuriaeth Broffesiynol mewn BioArloesedd Option

Testimonials

Kate Hovers

“Being a distance learner worked very well for me. I could do lectures in the evening or if it was quiet in the day. I was able to base my research project around my work and have developed a training course for vets as an output.”

Kate Hovers Vet - Wales
John Goodwin

It was so different to any other module I have studied that I found it really interesting. It has made me question how I am being manipulated in many areas of life

John Goodwin Farmer -
Apply to Be a Student

Adnoddau i'w Lawrlwytho

Llyfryn Ffurflen Cynnig Ymchwil