Modiwlau Ar-lein
Sut mae dysgu o bell yn cael ei gyflwyno?
Mae pob modiwl dysgu o bell yn para 13 wythnos ac yn gyfan gwbl ar-lein. Mae’r deunydd dysgu ym mhob uned wythnosol yn cynnwys: canllaw astudio y gellir ei argraffu, darlithoedd a thrafodaethau ar fideo, podlediadau y gellir eu lawrlwytho (i chi gael gwrando arnynt yn y car), deunydd darllen dan arweiniad, cwisiau rhyngweithiol, a fforwm trafod ar-lein. I gymryd rhan, bydd yn rhaid i chi fod â band eang sy’n gallu ffrydio fideo YouTube.
Nid ydym bellach yn rhedeg modiwlau gyda llai na 5 myfyriwr, felly rhowch wybod i ni cyn gynted a phosib beth fydd eich dewisiadau fel y gallwn eich helpu i gynllunio ymlaen. Mae’r modiwlau poblogaidd yn rhedeg bob blwyddyn a’r modiwlau mwy arbenigol yn rhedeg bob yn ail flwyddyn os na fydd digon o fyrwyr wedi cofrestru arnynt. Os ydych yn gweithio tuag at gymhwyster, gwnewch yn siwr fod eich modiwlau dewisiadol yn cyfru tuag at eich cymhwyster dewisiol!
Amserlen
