IBERS Distance Learning Logo

Y Broses Wedi i Chi Wneud Eich Cais

Wedi i ni dderbyn eich cais bydd angen dilyn y camau canlynol:
  1. Byddwch yn derbyn cynnig ffurfiol drwy e-bost (i'r cyfeiriad y gwnaethoch ddefnyddio yn eich cais) gan adran dderbyniadau Canolog y  Brifysgol.  Mae'n bosisb fydd y cynnig yn amodol ar ddarparu dogfennaeth ychwanegol.
  2. Derbyniwch eich cynnig a darparwch y dogfennau gofynnol.
  3. Unwaith y bydd cam 2 wedi'i gwblhau, bydd eich cofnod yn cael ei drosglwyddo i'r adran Gwasanaethau Gwybodaeth a byddant yn creu mewngofnod i chi. Bydd angen hyn arnoch i gael mynediad i'ch deunyddiau dysgu.
  4.  Bydd gofyn i chi actifadu eich cyfrif e-bost gan ddilyn y cyfarwyddiadau a danfonwyd atoch.
  5.  Bydd hefyd angen  i chi sefydlu proses gwirio dau gam (two step verification) a gellir dod o hyd i help ar gwahanol ffyrdd o wneud hyn yma.
  6.  Yn yr wythnos cyn i'r modiwl ddechrau, bydd y 'ffenestr gofrestru' yn agor ac yn aros ar agor am bythefnos.   Mae'n hanfodol eich bod yn mynd i'ch Cofnod Myfyriwr, mewngofnodi a chwblhau'r dasg gofrestru a fydd ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Bydd peidio â chwblhau'r dasg cofrestru yn arwain at golli mynediad yn sydyn i'r deunydd dysgu pan fydd y ffenestr yn cau.
  7. Mae'r modiwlau'n lansio am hanner dydd ar y diwrnod dynodedig a gellir eu cyrchu drwy mewngofnodi i Blackboard

Adnoddau i'w Lawrlwytho

Llyfryn Ffurflen Cynnig Ymchwil